01/11/2026
Dyna ni – “it’s a wrap” Tymor 2026
Diolch enfawr i’n holl westeion gwych ac i deulu estynedig Bryngoleu..!!
Wrth i ni bacio a chau’r giatiau ar dymor gwyliau anhygoel arall, roeddem am gymryd eiliad i fynegu ein diolch dwysaf i bob un ohonoch…!! Boed yn aelodau o’n teulu tymhorol, ymwelwyr rheolaidd, neu’n rhai sydd wedi ymweld â ni am y tro cyntaf eleni – chi yw’r rheswm pam mae ein safle carafanau yn teimlo fel cymuned mor arbennig..!
Diolch am ddod â’ch egni a’ch gwên i’r safle eleni. Rydym yn hynod ddiolchgar eich bod wedi dewis treulio eich amser gwyliau gwerthfawr gyda ni, ac am y gofal a’r parch rydych bob amser yn eu ddangos tuag atom ni, tuag at eich gilydd, ac tuag at y safle a’r cyfleusterau. Diolch i chi am barhau i ymweld a chefnogi busnesau lleol yr Ynys; a llongyfarchiadau mawr i nifer ohonoch sy’n dysgu Cymraeg 👏👏 mae ychydig o eiriau yma ac acw yn gwneud gwahaniaeth mawr 👏👏
Rydym eisoes yn brysur yn gwneud gwaith uwchraddio / cynnal a chadw i sicrhau fod y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn well. Dymunwn aeaf cysurus a diogel i chi i gyd.
Dani yn barod yn cyfri y dyddiau nes bydd y giatiau’n agor eto Mis Mawrth nesaf. Teithiwch yn ddiogel adref, a diolch yn fawr iawn i chi i gyd!
It’s a wrap - 2026 Season
A massive thank you to all our wonderful guests and extended Bryngoleu family..!!
As we pack up and close the gates on another incredible holiday season, we wanted to take a moment to express our deepest gratitude to every single one of you…!! Whether you are one of our cherished seasonal family, regulars or visited us for the very first time this year, you are the reason our caravan site feels like such a special community.
Thank you for bringing your energy and smiles to the site this year. We are incredibly grateful that you chose to spend your precious holiday time with us, and for the care and respect you always show us, each other, the site and facilities. You continuously visit and support local businesses and also a HUGE well done to quite a few of you that are learning Welsh 👏👏a few words here and there goes very far 👏👏
We are already hard at work with upgrades and maintenance to make next year even better. We wish you all a cozy, and safe winter.
We are already counting down the days until the gates open again next March. Safe travels home, and thank you a million times over!
Eirian, Martin and family 👋 👋